Croeso
Mae’r cyngor yn gorff corfforaethol sy’n bodoli fel endid cyfreithiol ac mae wedi derbyn pŵer gan Lywodraeth Cymru. Mae gan y cyngor 8 aelod (9 ar hyn o bryd tan yr etholiad nesaf) yn cynnwys Cadeirydd, Swyddog Cyllid ac Ysgrifennydd.
Mae cyfarfodydd y cyngor yng Nghanolfan Gymunedol Dolgarrog ar nos Lun cyntaf pob mis. Gall amseroedd newid gan ddibynnu ar wyliau’r aelodau. Mae modd gweld Cyfansoddiad y Cyngor, Côd Ymddygiad a chyfrifon os ydych yn gofyn i wneud hynny. Mae cofnodion cyfarfodydd y cyngor ar gael ar y wefan hon.
Amdanon ni
Gweithio gyda’r gymuned
Mae’r cyngor cymuned yn gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Conwy yn cynrychioli diddordebau pobl cymuned Dolgarrog ynglŷn â materion fel cynllunio, y briffordd, diogelwch y gymuned, goleuadau stryd, caeau chwarae, canolfannau cymunedol, ysbwriel, coffáu rhyfel, seddau, llochesau a hawliau ffordd.
Pwy all fod yn gynhorydd cymuned Dolgarrog a’r ardal
Etholiad neu gyfetholiad sy’n dyfarnu seddau’r cyngor cymuned. Cyfetholiad ydy pan mae’r cyngor yn dewis o restr o wirfoddolwyr os nad oes digon o ymgeiswyr yn ystod cyfnod yr etholiad, neu os nad ydy’r etholaeth yn galw am etholiad pan mae rhywun yn gadael ei sedd.
Gall gynghorwyr cymuned gynrychioli plaid wleidyddol neu fod yn annibynnol wleidyddol. Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar baragraff 1.5, 1.6 - 1.14 a 1.15 o Ganllaw'r Comisiwn Etholiad.