Amdanon ni Dolgarrog Cysylltu â ni Dolenni Cymuned Dolgarrog
Croeso

Mae pentref Dolgarrog yn sir Conwy, Gogledd Cymru. Mae’r pentref o fewn terfynau tair afon - Afon Ddu i’r de, Afon Porthllwyd i’r gogledd ac Afon Conwy i’r dwyrain. I’r gorllewin, ar lechweddi isaf Moel Eilio (546m) mae golygfa hyfryd o goedwig Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed Dolgarrog. Mae’r pentref yn adnabyddus iawn am ei hanes diwydiannol a Thrychineb Argae Eigiau yn 1925.

Mae pentref Dolgarrog yn sefyll yng nghanol yr hyfryd Ddyffryn Conwy ac yn agos iawn at lawer o lwybrau cerdded, llynnoedd a mynyddoedd hardd iawn. Mae copâu cyfagos y Drwm a Thal y Fan yn 2,526 troedfedd a 2,001 troedfedd yn eu tro ac yn addas ar gyfer ymdrech gyntaf unrhyw un ar ddringo mynydd. Mae Afon Ddu, sy’n rhedeg ychydig i’r de o Ddolgarrog, yn rhan bwysig o Daith Cerdded y Ceunant. Mae’r daith ceunant hon yn arwain at antur a chanolfannau gweithgareddau gan gynnwys Canolfan Fynydd Tanrallt. Mae’n ddiwrnod llawn her, wrth ichi sgrialu i ben rhaeadrau, neidio i byllau dwfn a gwingo trwy gildraethau.


Mae sawl taith gerdded sy’n mynd yn uniongyrchol o’r pentref ac yn dilyn llwybrau at hen bentrefi a ffyrdd Rhufeinig, at safle'r hen Argae Eigiau yn ogystal â’r Daith Gerdded Goffaol sy’n coffáu trychineb yr argae.


Ychydig dros ddwy filltir i’r de mae pentref Trefriw, Coedwig Gwydyr a llynnoedd Crafnant a Geirionnydd sydd â golygfeydd hardd. Mae taith gerdded y Ddau Lyn yn cynnig rhai o’r golygfeydd mwyaf hyfryd yn Eryri ac mae’r teithiau cerdded o amgylch y llynnoedd yn sicr werth yr holl ymdrech.

walesdirectory.co.uk

Crwydro o gwmpas Dolgarrog a’r ardal

Taith Hanesyddol Dolgarrog

Chwedl y Carrog

Yn ôl y sôn, crëwyd y pentref o gwmpas 1200AD. Cafodd y pentref yr enw Dolgarrog ar ôl draig oedd yn gallu hedfan, y Carrog. Byddai’r creadur chwedlonol hwn yn hedfan lawr at ddôl Dol-y-carrog ac yn ysglyfaethu ar y da byw. Collodd y ffermwyr lleol cymaint o ddefaid felly fe aethon nhw ati i ladd y ddraig gyda gwaywffyn, bwâu a saethau. Gwrthododd un ffarmwr fynd, Nico Ifan, gan ei fod wedi derbyn rhybudd mewn breuddwyd mai Carrog fyddai achos ei farwolaeth. Gosododd y ffermwyr gelain defaid gwenwynedig ar draws yr afon uwchben Eglwysbach. Heb amau dim, fe gipiodd y Carrog yr abwyd ac felly cafodd ei ddal a’i guro i farwolaeth. Aeth Nico Ifan yno i orfoleddu dros farwolaeth y ddraig. Wrth iddo felltithio fe giciodd y corff ond bu i aden bigog y Carrog fynd trwy goes Nico a’i ladd gan wireddu’r rhybudd yn ei freuddwyd.  


Brad y Powdwr Gwn

Yn ôl y sôn, roedd dyn oedd yn gwybod am Frad Powdwr Gwn Guto Ffowc yn byw yn nhŷ Ardda’r Myneich sydd â’i adfeilion yn y caeau uwchben y ffordd rhwng pontydd Porthllwyd a Dolgarrog. Cyhuddwyd Dr Thomas Williams (1550-1622) rheithor Eglwys Sant Pedr, Llanbedr-y-Cennin, o gefnogaeth Babyddol. Roedd wedi rhybuddio Sir John Wynne o Gwydyr i gadw draw o’r Senedd ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw.

Trychineb Argae Eigiau

Ar yr 2il o Dachwedd 1925, bu i fethiant ddau argae achosi llifogydd a fu foddi pentref Dolgarrog gan ladd 16 o bobl, gan gynnwys 6 plentyn. Dechreuodd y trychineb oherwydd methiant Argae Eigiau, argae cadarn wedi ei wneud o goncrit oedd yn berchen i’r Gorfforaeth Alwminiwm. Bu i’r dŵr o’r gronfa ddŵr lifo drosodd i lawr i’r pentref, gan orlenwi Argae Coedty, argae arglawdd. Oherwydd hyn, fe wnaeth yr argae hwn hefyd fethu gan ryddhau miliynau o alwyni o ddŵr a miloedd o dunelli o gerrig mawr Oes y Rhew lawr ceunant cul ar y pentref.


Buasai llawer iawn mwy o bobl y pentref wedi gallu marw oni bai eu bod yn y theatr leol yn gwylio ffilm ar y noson honno.

 

Bu i’r trychineb yn Nolgarrog arwain at basio Deddf (Darpariaethau Diogelwch) Cronfeydd Dŵr 1930 yn y Senedd Brydeinig oedd yn cyflwyno cyfreithiau ar ddiogelwch cronfeydd dŵr. Ers hynny, mae hwn wedi ei ddiweddaru, a’r ddeddf bresennol ydy Deddf Cronfeydd Dŵr 1975.

 

Yn 2004 crëwyd llwybr coffaol gwerth £60,000, sy’n egluro’r hanes trist i gerddwyr. Mae’r llwybr yn arwain yr ymwelwyr at le bu i’r cerrig mawr o’r argae ddisgyn. Agorwyd y prosiect gan oroeswr olaf y trychineb argae, Fred Brown, a gollodd ei fam a’i chwaer ieuengaf ar y noson honno.


Cafodd gwaith adeiladu argae Eigiau ei hwyluso oherwydd gwaith adeiladu Tramffordd Eigiau, oedd yn dilyn yn bennaf llwybr Tramffordd Chwarel Cedryn o Ddolgarrog. Cafodd y llethr hwn ei wella (a’r rhan gwaelod ei ailosod), ac felly roedd injans stêm yn gallu cyrraedd man cychwyn y dramffordd, wrth ymyl cronfa ddŵr Coedty. Adeiladwyd y dramffordd mewn cledrau safonol, ond wedi hynny cafodd ei ailosod mewn cledrau culach (o tua 1916) pan ddechreuwyd y Dramffordd Cowlyd. Roedd y dramffordd hon yn fforchio o dramffordd Eigiau ar ben llethr Dolgarrog.


Mae’r lein rheilffordd ar y llethr erbyn hyn wedi ei ailosod gan ail biblinell, ac mae coedwig ar hyd y llethrau cyfagos. Ond, mae llwybr cyhoeddus sy’n mynd i fyny’r llethr ar ochr chwith y biblinell, ac mewn rhai llefydd mae modd gweld y gwaith coed o hyd. Erbyn heddiw mae’r biblinell chwith (sydd i’w weld o Ddolgarrog) yn cario dŵr o Lyn Cowlyd; a’r biblinell dde yn cario dŵr o gronfa dŵr Coedty.

Treftadaeth Ddiwylliannol Dolgarrog

Dechreuodd Dolgarrog ddiwydiannu yn y 18fed ganrif gyda melin flawd ar afon Porthllwyd oedd yn gwasgu grawn i ffermwyr lleol. Roedd hefyd felin wlân wrth bont Dolgarrog yn ogystal â melin yr Abaty.


Cafodd melin lwyddiannus Porthllwyd ei gwneud yn fwy gan John Lloyd, mab y sylfaenydd Richard Lloyd. Yn ogystal â malu blawd, fe brynodd beiriannau i wneud papur a chasnach ar gyfer gwelyau. Roedd argraffwyr lleol, gan gynnwys John Jones, argraffydd Trefriw ac yna Llanrwst, yn defnyddio papur Porthllwyd.


Yn 1885 roedd pobl y pentref eisiau sefydlu ysgol ym Mhorthllwyd. Fe wnaeth hen bentref Dolgarrog apelio at Mr Robins, perchennog y felin-bapur ar y pryd. Fe adawodd iddyn nhw droi ystafell fawr wag yn y felin yn Ysgol Sul lwyddiannus. Roedd y bobl leol yn galw’r ystafell hon yn ‘Ystafell y drws coch’ er mwyn gwneud yn siŵr na fyddai’r plant yn crwydro i weithfannau’r felin.


Roedd melin lifio John Williams yn Nolgarrog hefyd yn llwyddiannus. Roedd yn allforio cannoedd o dunelli o sliperi rheilffordd pren ar gyfer y rheilffyrdd newydd rhwng 1845 a 1865. Torrwyd y dywarchen gyntaf ar gyfer trac Rheilffordd Conwy a Llanrwst ar yr 25ain o Awst 1860, ar dir Arglwydd Newborough yn yr Abaty, Dolgarrog, John Williams a ddarparodd y sliperi.

Gwaith Alwminiwm

Cynlluniwyd y Gwaith Alwminiwm (neu "mwyndoddwr") yn wreiddiol yn 1895. Byddai dŵr o gronfeydd dŵr ym mynyddoedd Eryri yn darparu’r trydan dŵr fyddai ei angen er mwyn rhedeg y felin.


Yn 1907, dechreuodd y gwaith cynhyrchu alwminiwm yn y ffatri ac yn 1916 cafodd felin rholio ei hychwanegu. Yn 1924, adeiladwyd y ffatri trydan dŵr drws nesaf i’r Gwaith Alwminiwm er mwyn helpu i redeg y felin.


Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd y Gwaith Alwminiwm dan reolaeth y Weinyddiaeth Cynhyrchu Awyrennau ac roedd yn darparu darnau ar gyfer awyrennau. Yn ôl bob sôn, fe wnaeth Luftwaffe geisio dinistrio’r ffatri, ond cafodd y bomiwr oedd wedi ei anfon yno ei saethu a bu iddo gwymplanio yn y mynyddoedd uwchben y pentref.


Dydy’r ffatri ddim yn gweithredu bellach, gyda’r gwaith toddi eisoes wedi dod i ben yn y 1940au. Prynodd Alcoa holl rannau cwmni Luxfer yn 2000 yna ym mis Mehefin 2002 cyhoeddodd ei fod wedi cau. Ffurfiwyd Dolgarrog Aluminimum Ltd yn 2002 ac enillodd yr asedau gan Alcoa yn 2002. Caewyd y ffatri ar ddiwedd 2007 a’i ddinistrio yn 2009.

Dolgarrog a’r Rheilffyrdd

Yn 1918 enillodd Corfforaeth Alwminiwm Dolgarrog gyfran reolaethol yng Nghwmni North Wales Power & Traction. O ganlyniad, daeth Dolgarrog yn ganolfan weinyddol y cwmni hwn, a’i gadeirydd oedd Henry Joseph Jack. Roedd y cwmni’n bwriadu darparu trydan i reilffyrdd gogledd Cymru, ac roedd yn gweithio ar reilffyrdd arfaethedig Porthmadog, Beddgelert a De Wyddfa. Yn dilyn hynny, fe brynodd Jack gyfrannau mwyafrif yn Rheilffordd Ffestiniog, Rheilffordd Eryri a Rheilffordd yr Wyddfa a olygai ei fod yn rheoli pob rheilffordd gul oedd yn cludo teithwyr yn y rhan honno o ogledd Cymru. Daeth rheolaeth Dolgarrog ar y rheilffyrdd i ben yn 1924 pan fu i Jack ymddeol o Reilffordd Ucheldir Cymru, yn derbyn y bai am ei ddiffyg llwyddiant. Daeth y cam olaf o ganlyniad i drychineb argae’r flwyddyn ganlynol.


The Dolgarrog Railway Society aims to re-establish a small industrial railway line (with a rural flavour). It also intends to preserve locomotives and rolling stock appropriate to the line.

CROESO I DDOLGARROG