Amdanon ni Dolgarrog Cysylltu â ni Dolenni Cymuned Dolgarrog
Croeso

Bydd manylion am ddigwyddiadau sydd i ddod yn Nolgarrog a’r ardal yn ymddangos yma, ynghyd â newyddion, adroddiadau a lluniau rhai digwyddiadau.

NEWYDDION A DIGWYDDIADAU

  CYNGOR CYMUNED DOLGARROG

Swydd Clerc / Swyddog Ariannol Cyfrifol

Mae Cyngor Cymuned Dolgarrog am benodi Clerc a Swyddog Ariannol Cyfrifol llawn hunan-gymhelliant i gyflawni blaenoriaethau a gofynion statudol y Cyngor. Bydd y Clerc yn Swyddog Priodol a Swyddog Ariannol Cyfrifol y Cyngor Cymuned. Bydd yn gyfrifol am weithredu gofynion cyfreithiol, ariannol a gweinyddol y Cyngor.

Mae’n ofynnol gweithio’n hyblyg yn y swydd, gweithio o gartref a mynychu cyfarfodydd misol y Cyngor. Mae’r swydd yn un rhan amser, 4 awr yr wythnos. Cyflog: Graddfa SCP 17 £14.95 yr awr.

Ymgeiswyr: y cam cyntaf yw e-bostio eich CV, yn cynnwys eich manylion cyswllt, i jackieley@me.com

Y dyddiad cau yw hanner nos ar 4 Ionawr 2025.